Rhodd – Iwan Rheon

Yn y pridd
Mae ein hadau ni
Ga ni weld nhw’n tyfu
I mewn i rywbeth gwell

Ger y llyn
Yn eu dyfnder hi
Rhwydo gwres y dŵr
Yn hel atgofion

Mae’r ffordd yn hir
Ond, ambell waith
Gall rhodd
Gael ei ollwng
Ar dy draed

Amser hir
Ers i ni weld nhw
Licris ar fy llw
‘Naeth i fi deimlo’n sâl

Ar y dde
Roedd y tannau’n wyn
A dy wyneb di’n lun
O fod yn rywbeth gwell

Mae’r ffordd yn hir
Ond, ambell waith
Gall rhodd
Gael ei ollwng
Ar dy draed

Yn y pridd
Mae’n cyndadau ni, ei’n tadau ni
Be ‘allwn ni ddysgu
I fod yn rywbeth gwell

Bob dydd
Mae nhw’n newid ni
Dŵr ar wefusau sych
Sy’ byth yn ildio

Mae’r ffordd yn hir
Ond, nid oes bai
Dyma rodd
Ar fodiau dy draed
www.pillowlyrics.com
error419786
fb-share-icon497975
Tweet 88k
fb-share-icon20